Opening Times

01407 731080

Login / Register

Europe

PAWB A’I FAM AM AMSTERDAM '24 GYDA SÊR CYMRU

EFROG, AMSTERDAM A MANCEINION

No tours available


DAFYDD IWAN A’R BAND ● BWNCATH ● MEI GWYNEDD A BAND
TŶ POTAS ● FLEUR DE LYS ● JONATHAN DAVIES ● TUDUR WYN ● LLION WILLIAMS A'R DIGRIFWR DILWYN MORGAN

2 NOSON O ADLONIANT BYTHGOFIADWY GAN SÊR CYMRU
GWYLIAU HANNER TYMOR YSGOL

Ydych chi'n barod am daith a hanner? Yn dilyn llwyddiant ysgubol taith 2022, mae PAWB A'I FAM YN MYND YN ÔL AM AMSTERDAM YN 2024!! Ymunwch a ni ar fordaith fythgofiadwy gyda haid o SÊR CYMRU!!

GYDA GWLEDD O ADLONIANT bydd y Cymry yn heidio i Amsterdam, a’r dyn ei hun Dafydd Iwan unwaith eto ar flaen y gad. Bydd Bwncath, Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas, Fleur de Lys, Jonathan Davies, Tudur Wyn, Dilwyn Morgan a Llion Williams hefyd yn rhan o’r bataliwn.

Os yr ydych yn chwilio am daith gwahanol i griw o ffrindiau, wel dyma ni, Amsterdam amdani! Archebwch heddiw, y gyntaf i’r felin gaiff ganu!!

Prisiau:
Caban tu mewn yn cychwyn o £259
Caban tu mewn i ddau (gwely bync) £259 y pen
Atodiad o £20 y pen am wely ochr yn ochr
Atodiad o £30 y pen am gaban sengl
Atodiad o £20 y pen am gaban i 3 neu 4

Caban tu allan gyda ffenest yn cychwyn o £285
Caban tu allan i ddau (gwely bync) £285 y pen
Atodaid o £10 y pen am wely ochr yn ochr
Atodiad o £60 y pen am gaban sengl
Atodiad o £10 y pen am gaban i 3 neu 4

Opsiynol (Bwyd yno ac yn ôl): 2 Swper, 5-Chwrs a 2 Frecwast ar y llong am £70 y pen


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Teithio i Efrog, ar ôl amser rhydd cwblhau ein siwrne i Hull i ddal y llong dros nos i Rotterdam. Mwynhewch noson o adloniant gan Sêr Cymru.

Diwrnod 2: Teithio i Amsterdam gan gyrraedd tua 10.30am. Mwynhewch amser rydd tan 3.30pm, cyn teithio yn ôl at y long yn Rotterdam. Heno mwynhewch noson arall o adloniant gan Sêr Cymru.

Diwrnod 3: Ar ôl cyrraedd Hull, teithio adref i ogledd Cymry drwy ymweld â Manceinion ar y ffordd.

Cynnwys

  • 2 Noson mewn caban tu mewn (gwely bync) gyda cyfleusterau ar y llong
  • 2 Noson o Adloniant Sêr Cymru