Diwrnod 1: Teithio i Blackpool a chael prynhawn rhydd. Ar ôl swper blasus mwynhewch noson o adloniant gan y gwesty sy’n cynnwys perfformwyr byw a bingo.
Diwrnod 2: Diwrnod rhydd i fwynhau. Heno bydd uchafbwynt y daith, noson o ganu a chwerthin gyda Tudur Wyn, Alistair James â’r Tri Digri wrth y llyw.
Diwrnod 3: Bore rhydd yn Blackpool a chychwyn adref amser cinio ar ôl penwythnos llawn hwyl!