Diwrnod 1: Teithio i Lundain ac i’r Gwesty. Cyfle i ymlacio cyn swper buan yn y gwesty. Heno bydd y bws yn eich cludo i ganolfan Cymru Llundain (Grays Inn) i ymweld a Chôr Meibion Cymry Llundain yn ymarfer. Cyfle i ddilyn i gymdeithasu a chael gwydriaid o ddiod yn y clwb.
Diwrnod 2: Mae hanes y Cymdeithasau Cymreig oedd yn bodoli yn Llundain rhwng 1700 a 1900 yn rhan allweddol o hanes a datblygiad y Gymru fodern gymreig.
Bwriadwn dreulio diwrnod yn ymweld a’r mannau hynny sy’n amlwg yn yr holl stori gan ddechrau gyda hanes sefydlu Cymdeithas y Cymmrodorion yn 1751 a symud ymlaen i drafod hanes y gwyr hynny a sefydlodd Gymdeithas y Gwyniddigion yn Rhagfyr 1770.
Byddwn yn rhannu’r diwrnod i bedair taith fer ac yn ymweld a’r lleoliadau pwysicaf gan gynnwys:
- Ysgol elusenol Gymraeg Clerkenwell Green.
- Lleoliad y capel Cymraeg cyntaf yn Cocks Lane.
- Mynwent Burnhill lle claddwyd nifer o Gymry amlwg (megis Richard Price yr athronydd)
- Y tafarnau amlwg ble cynhalwyd y cyfarfodydd (yn arbennig y George and Vulture yn Lombard Yard) ble ymgasglodd Owain Myfyr, William Owen Pugh a Jac Glan y Gors i drefnu casglu barddoniaeth Dafydd ap Gwilym a threfnu Eisteddfodau Cenedlaethol cyntaf y Cymru fodern.
- Yn ardal St Pauls cawn ymweld a lleoliad Tafarn enwog Jac Glan y Gors ar Ludgate Hill yn ogystal a lleoliad yr enwog Goose and Gridiron.
- Cawn ymweld a lleoliad y London Stone, ble cynhaliwyd Cyfarfod cyntaf y Cymmrodorion ac y pasiwyd “Y Gosodigaethau” enwog i amddiffyn a chynnal dyfodol y diwylliant Cymraeg.
**Mai’n bosib y bydd Gari yn ail wampio fymryn ar leoliadau y daith erbyn y dyddiad.
Mae hon yn stori o fenter ac ymroddiad, o aberth a gweledigaeth, o ddadlau a checru a gosod seiliau i lenyddiaeth Gymraeg modern.
Bydd cyfle i weld plac yn nhafarn y George and Vulture i goffhau Cyhoeddi Barddoniaeth Dafydd ap Gwilyn a gwaith hanesyddol enwog yr Archaiology Cambrais.
‘Roedd y cymeriadau fyddwn yn eu trafod yn bobol heb eu hail ac yn meddu ar hiwmor crafog unigryw. Cewch rannu eu hemosiwn au ffraethineb yng nghrombil yr ardal hon o ddinas Llundain a oedd am bron i ganrif yn fwrlwm o Gymry alltud.
Bydd y daith yn golygu gwaith cerdded rhwng 3 – 4 milltir.
Bydd cyfle am baned yn ystod y daith ac mae cinio 3-chwrs wedi ei drefnu am 2.45pm yn y George and Vulture.
Mae nos Wener yn rhydd i chi ymlacio neu ymweld a Sioe yn y “West End”
Diwrnod 3: Ar ôl brecwast hamddenol byddwn yn ymweld ag un lleoliad arall allweddol yn hanes Cymry dylanwadol y ddinas a hynny o gwmpas amser cinio am rhyw awran o sgwrs. Bydd dewis lleoliad hwnnw yn ddibynol ar y tywydd.
Bydd gweddill y prynhawn a’r nos yn rhydd a phawb i drefnu swper eu hunain.
Diwrnod 4: Ymweld a Chapel Cymraeg Canol Dinas Llundain a chael sgwrs am Lloyd George a’i gysylltiadau a Chapel Eastcastle Street. Dyma gapel lle bydda Lloyd George yn rhoi llawer o’i ariaethu enwog a phwysig. Bydd croeso cynnes yno a chyfle dros baned am sgwrs gyda rhai o drigloion Cymry Llundain.
Yna byddwn yn mynd i Primrose Hill (Bryn y Briallu) i weld Cofeb Iolo Morganwg a godwyd 21 Mehefin 2009 i ddweud am y lleoliad yma ble roedd Cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd Ynys Prydain ar 21 Mehefin 1792
Cyn cychwyn ar ein taith yn ol i Gymru, cawn ginio Sul 3-chwrs ym mwyty Odette’s ger Regent Park, y cogydd enwog Bryn Williams, Dinbych yw’r perchennog. (Yn amodol ar gadarnhad gan Odette’s ym mis Mai’24)