Diwrnod 1 (Gwener): Teithiwn i’r Alban gydag arhosiad byr yn Gretna Green ar y ffordd.
Ar ôl eich swper heno, bydd cyfle i fwynhau noson o adloniant Albanaidd yn y gwesty.
Diwrnod 2 (Sadwrn): Ar ôl brecwast teithiwn i ddinas Dundee. Mae ardal glan y dŵr y ddinas wedi’i drawsnewid yn dilyn adfywiad gwerth £1 biliwn. Mae hefyd yn leoliad i’r V&A Dundee – cangen gyntaf Amgueddfa’r V&A tu allan i Lundain.
Cewch dreulio’r diwrnod cyfan yn Dundee neu ymuno a’r bws am daith hanner diwrnod i St. Andrews yn y prynhawn. Yn enwog am ei golff a’i phrifysgol, mae gan y dref gastell, eglwys gadeiriol a thraethau bendigedig.
Heno mae uchafbwynt y daith!! Mwynhewch swper i’w ddilyn gan barti mawr y Cymry gyda amrywiaeth o adloniant Cymreig, hwyl a sbri a chanu i godi’r to gyda Dafydd Iwan a’r Band a Dilwyn Morgan.
Diwrnod 3 (Sul): Taith diwrnod lawn i Gaeredin, bydd digon o amser i grwydro prifddinas hanesyddol yr Alban gyda’i gastell mawreddog, y Royal Mile, Princes Street a Phalas Holyroodhouse.
Diwrnod 4 (Llun): Amser ffarwelio a’r Alban a dychwelwn adref gydag arhosiad byr am ginio yn Gertna Green cyn cwblhau’r daith adref i ogledd Cymru.