Diwrnod 1: Teithio i Dover i ddal y fferi am daith fer i Calais ac yna ymlaen i dref hanesyddol Lisieux yn Normandi i aros dros nos yng Ngwesty’r Grand Hotel de L’Esperance, Lisieux (3 seren). Swper, gwely a brecwast.
Diwrnod 2: Teithio i Westy’r De L'Hipperdrome Ploermel am arosiad o 5 noson, gwely a brecwast. Mae swper nos yn gynnwysedig ar y noson gyntaf.
Diwrnod 3: Teithio i Lorient ar gyfer yr Orymdaith Fawr, mae Bathodyn Wythnosol i’r Wŷl yn gynnwysedig. Mae Gorymdaith Fawr y Cenhedloedd Celtaidd yn rhywbeth mai’n rhaid i chi brofi o leiaf unwaith yn eich bywyd! Bydd 3000 o artistiaid mewn gwisgoedd traddodiadol o bob gwlad Geltaidd yn gorymdeithio trwy strydoedd Lorient ar gyfer y sioe.
Heno, mae tocyn i’r sioe ‘Horizons Celtiques’, sioe nos wych yr Ŵyl yn y Stade du Moustoir yn gynnwysedig. Mae’r sioe eithriadol hon i’r teulu cyfan yn cyfuno cerddoriaeth, dawns a chanu gyda mwy na 500 o artistiaid o’r 8 gwlad Celtaidd.
Mae’r sioe yn cychwyn am 8.30pm tan 11.15pm. Bydd y bws yn eich cludo yn ôl i’r gwest ar ddiwedd y perfformaid.
Diwrnod 4: Diwrnod arall yn yr Wŷl yn Lorient i brofi bob math o gerddoriaeth a digwyddiadau hwyliog! Heno mae tocyn i gyngerdd The Klub Noon Seo Linn wedi ei gynnwys.
Diwrnod 5: Mwynhwech ddiwrnod arall yn yr Wŷl. Heno, mae uchafbwynt y daith, teithiwn i fest noz a chlywed Lleuwen Steffan gyda'i band newydd Tafod Arian mewn cyngerdd yn y Palais des Congrès. Mae'n ymwneud ag ailgyflwyno caneuon cysegredig coll i'r byd. Mae Lleuwen yn rhoi 50 o gyngherddau yn 2024 gyda chaneuon answyddogol, traddodiadol a chyfriniol o Gymru. Roedd y caneuon hyn wedi bod yn segur ers degawdau yn archifau sain Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Diwrnod 6: Heddiw byddem yn teithio i ardal cartref Lleuwen Steffan yng nghanol Llydaw wledig, lle bydd hi'n eich tywys i Traoñienn ar Sent yn Carnoet i weld cannoedd o'r gerfluniau o'r hen seintiau Celtaidd. Gyda'r nos, bydd noson o adloniant Llydewig a Chymreig, yn farddoniaeth a cherddoriaeth a chroeso mawr Llydewig yn safle chwedlonol Tavarn Ti Elise yn Plouye.
Diwrnod 7: Bore hamddenol yn y gwesty cyn ffarwelio â Ploermel a theithio’n ôl i Lisieux i aros dros nos. Swper, gwely a brecwast.
Diwrnod 8: Teithio’n ôl i Calais i ddal y fferi am adref.