Opening Times

01407 731080

Login / Register

England

TAITH Y CYMRY - YNYS MANAW, YR YNYS GELTAIDD

24 June 2025

5 Days from just £699.00

Chesterhouse Hotel

TYWYSIR Y DAITH GYFAN GAN LLION WILLIAMS

Dewch i ymuno a ni ar daith fythgofiadwy i ynys hardd ein cefndryd Celtaidd. Cawn flasu gwefr ei gorffennol yn ogystal â hyfrydwch heddiw ar daith hamddenol i ymweld â rhyfeddodau Manaw - gan gynnwys taith i ben ei mynydd uchaf - Snaefell - lle gellir gweld pob un o deyrnasoedd Ynys Prydain ar ddiwrnod clir, yn ôl y sôn.

Atodiad Sengl £70


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

24 Jun, 2025

Duration

5

Price

£699

Hotel

Chesterhouse Hotel

Title

Taith y Cymry - Ynys Manaw


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Teithio i Heysham, a chroesi i Ynys Manaw yn y prynhawn – 3½  awr o daith. (4 noson cinio, gwely a brecwast yng Ngwesty’r Chesterhouse, Douglas.)

Diwrnod 2: Teithiwn tua’r de i ymweld â hen brifddinas yr ynys, sef Castletown, lle gawn weld Castle Rushden, cartref Brenhinoedd ac Arglwyddi Manaw yn yr oesoedd canol. Ymlaen wedyn i Amgueddfa Werin Cregneash, i weld y bythynnod traddodiadol, cyn cyrraedd Port Erin. O'r fan hon, camwch yn ôl mewn amser ar Reilffordd Stêm yr ynys wrth iddi eich cludo trwy gefn gwlad Manaw ar y daith yn ôl i Douglas.

Diwrnod 3: Yn y bore cewch amser rhydd i fwynhau atyniadau Douglas. Cyfle i siopa, i grwydro’r prom - neu efallai ymweld ag amgueddfa’r ynys, sef y Manx Museum. Teithiwn i bentref Laxey lle bydd opsiwn o weld yr olwyn ddŵr fwyaf yn y byd, y Lady Isabella sy’n tystio i orffennol diwydiannol yr ynys (mynediad yn ychwynegol). Wedyn cawn daith ar y trên i gopa mynydd uchaf Manaw sef Snaefell. Oddi yno ceir golygfa odidog, gyda phob un o deyrnasoedd Ynys Prydain, sef Cymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon ac Ynys Manaw i’w gweld ar ddiwrnod braf!

Diwrnod 4: Heddiw dilynwn gwrs TT enwog Ynys Manaw, gan aros yn ‘Royal’ Ramsey. Teithiwn ar draws yr ynys i Amgueddfa Modur Ynys Manaw, lle cewch archwilio’r straeon rhyfeddol y tu ôl i gasgliad o dros 500 o arddangosion unigryw o bob rhan o’r byd. Yna, ymlaen i Peel, dywedir ei fod yn enghraifft orau o dref nodweddiadol Manawaidd. Byddwn yn gorffen y diwrnod drwy ymweld â Tynwald Hill, man cyfarfod hynafol senedd Manaw.

Diwrnod 5: Croesi i Heysham yn y bore a dychwelyd adref.

Gwesty

Gwesty’r Chesterhouse, Douglas***
Mae’r gwesty mewn lleoliad hyfryd yn edrych allan dros Fae Douglas. Gydag amgylchedd cyfforddus a chroesawgar, dyma’r lle delfrydol i ymlacio. Mae pob ystafell wedi’i dodrefnu’n gyfforddus gyda cyfleusterau gwneud te/coffi, teledu sgrin fflat a WiFi am ddim.

Cynnwys

  • 4 Noson Cinio, Gwely a Brecwast
  • Teithiau Fferi o Heysham i Douglas ac yn ôl
  • Mynediad i Amgueddfa Werin Cregneash
  • Taith ar Reilffordd Stêm o Port Erin i Douglas
  • Taith ar y Trên i gopa Snaefell
  • Mynediad i Amgueddfa Modur Ynys Manaw