Opening Times

01407 731080

Login / Register

Europe

TRYSORAU DYFFRYN Y LOIRE

TAITH Y CYMRY 2025 09 June 2025

8 Days from just £1499.00

Novotel Amboise 4*
CHARTRES ● AMBOISE ● CHÂTEAU DU CLOS LUCE ● CHÂTEAU DE CHENONCEAU ● MONTRICHARD ● BLOIS ● CHÂTEAU BRENHINOL BLOIS ● CHATEAU DE VILLANDRY ● TOURS ● GERDDI MONET – GIVERNY

Cestyll mawreddog, trefi a phentrefi tlws, gwinllannoedd lu ar lethrau’r afon a gerddi godidog i ryfeddu atynt - mae Dyffryn y Loire yn un o berlau Ffrainc. Allwch chi ddim peidio â chael eich cyfareddu gan yr ardal hon o hud a lledrith yng ngogledd orllewin y wlad, a fu am ganrifoedd yn chwaraele i Frenhinoedd Ffrainc. Felly beth am ddod gyda ni i brofi ei naws unigryw, ac ymweld â lleoliadau a fydd yn aros yn eich cof am byth!

O’n gwesty yn nhref hanesyddol Amboise, byddwn yn ymweld a phedair o’r 300 a mwy o “Châteaux” sy’n nodweddu’r ardal, pob un â’i stori ddifyr ei hun. Cawn hefyd brofi rhai o winoedd blasus y dyffryn, ymweld â dinas fwyaf y Loire, sef Tours, - a chodi cwr y llen ar fywyd un o ŵyr mwyaf athrylithgar y byd, Leonardo da Vinci, wrth ymweld â’i gartref.

Atodiad Sengl £220

TYWYSIR Y DAITH GYFAN GAN LLION WILLIAMS

"Yn ogystal a bod yn actor adnabyddus yng Nghymru: mae Llion Williams yn dywysydd profiadol ar deithiau gwyliau ers dros 20 mlynedd. Mae wedi tywys yn helaeth ym Mhrydain ac Ewrop a gwn o brofiad bod teithwyr yn ddiolchgar iawn am ei wybodaeth a'i sylwadau ar deithiau di-rif i lefydd fel Sgandinafia, Yr Iwerddon a gwledydd Celtaidd eraill , yn ogystal a ffosydd Y Somme. Rwyf yn hynod falch fod Llion wedi cytuno i fod yn ran o becynnau cynhwysol Teithiau Elfyn Thomas ar gyfer y dyfodol." - Elfyn Thomas


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

9 Jun, 2025

Duration

8

Price

£1499

Hotel

Novotel Amboise 4*

Title

Taith y Cymry 2025 Trysorau Dyffryn y Loire


Manylion y Daith

Diwrnod 1 - Cychwyn oddeutu 4.30y.b. o Ogledd Cymru ar ein taith tua Dover i ddal y fferi i Ffrainc. Ar ôl cyrraedd, teithio i ardal Arras i aros dros nos yn ngwesty’r Mercure Arras Centre Gare**** (swper, gwely a brecwast), bydd amser i ymlacio cyn swper. Mae’r gwesty wedi ei leoli yng nghanol y dref, cymerwch y cyfle i fynd am dro ar ôl swper os yr ydych yn dymuno.

Diwrnod 2 – Teithio ymlaen hyd gyrion Paris i gyfeiriad y Loire. Ar y ffordd, cawn dreulio amser yn nhref Chartres, sy’n enwog am ei heglwys gadeiriol hardd yn cynnwys y casgliad mwyaf o ffenestri lliw canoloesol yn Ewrop. Chwaraeodd ei “Labyrinth” unigryw ran allweddol yn nofel Dan Brown “The Da Vinci Code” a’r ffilm o’r un enw. Mae’n werth galw yno i weld yr eglwys hynod hon.
Ymlaen wedyn  i dref Amboise yng nghalon dyffryn y Loire, lle byddwn yn aros yng ngwesty Novotel Amboise**** am 5 noson.

Diwrnod 3 – Bore rhydd yn Amboise i fwynhau awyrgylch y dref hanesyddol a’i phensaernïaeth nodedig. Cyfle i hamddena yn y sgwariau tlws llawn siopau a chaffis, ac i weld y clocdwr enwog.
Yn y prynhawn, byddwn yn ymweld â’r Château du Clos Luce, nepell o ganol y dref. Yma y bu’r athrylith Leonardo da Vinci yn byw a gweithio o 1516 hyd ei farw yn 1519. Mae’r maenordy wedi ei ddodrefnu  fel yr oedd yn y cyfnod hwnnw, ac mae’n cynnwys arddangosfa o 40 o ddyfeisiau rhyfeddol da Vinci, sawl un yn rhagweld technoleg fodern. Mae’r gerddi eang yn werth eu gweld hefyd.

Diwrnod 4 – Yn y bore, ymweld â’r Château de Chenonceau, un o’r harddaf yn y dyffryn. Fe’i gelwir yn “Château des Dames” (Castell y Merched) oherwydd y menywod pwerus a fu’n allweddol yn ei hanes – fel Diane de Poitiers, meistres Henri II, a’i weddw Catherine de Medici. Codwyd y castell presennol yn 1513-17, ac mae’n cynnwys gweithiau celf gan Tintoretto, Caravaggio, Rubens a van Dyck. Bydd cyfle i grwydro’r gerddi ffurfiol gwych hefyd.

Yn y prynhawn, cyfle i fwynhau tref farchnad brysur Montrichard. Bydd amser i hamddena yma cyn ymweld â gwinllan leol i gael taith o’i chwmpas a blasu peth o’r gwin sy’n nodweddu’r ardal.

Diwrnod 5 – Taith fer ar hyd y dyffryn i Blois, prifddinas y Loire, a hoff breswylfa Brenhinoedd Ffrainc am ganrifoedd. Mae digon i’w weld yn y ddinas hardd hon, a bydd cyfle i grwydro’r strydoedd a mwynhau’r awyrgylch cyn ymweliad â Château Brenhinol Blois, cartref i 7 o Frenhinoedd a 10 o Freninesau Ffrainc; mae’r castell yn adlewyrchu eu grym a’u bywydau bob dydd yn ystod cyfnod y Dadeni. Cawn weld llu o weithiau celf nodedig yma hefyd.

Diwrnod 6 – taith drwy gefn gwlad i’r Château de Villandry sy’n fyd-enwog am ei erddi gwych. Dyma’r castell mawr olaf i’w godi yn y dyffryn yn ystod y Dadeni. Mae’n cynnwys 6 o erddi ffurfiol godidog sy’n werth eu gweld. Mae ystafelloedd y castell yn hardd hefyd, yn enwedig yr “Oriental Drawing Room” a’i nenfwd aur!

Ymlaen wedyn i Tours, dinas fwyaf ardal y Loire am amser rhydd – cyfle i weld strydoedd cul yr hen ddinas, yr ardal siopa fodern a sawl adeilad nodedig fel yr Amgueddfa Celfyddyd Gain ac Eglwys  Gadeiriol Saint-Gatien.

Diwrnod 7 – Cychwyn ar ein taith yn ôl tua’r gogledd, gan alw yng ngerddi enwog yr arlunydd Claude Monet yn Giverny. Ymgartrefodd Monet a’i deulu yno yn 1883. Mae dwy ran i’r ardd heddiw – gardd flodau a elwir yn Clos Normand o flaen y tŷ, a gardd ddŵr Japaneaidd, lleoliad y lilis dŵr enwog a ymddangosodd yng nghynifer o’i baentiadau.

Ymlaen wedyn i Arras i aros dros nos yng ngwesty’r Mercure Arras Centre Gare**** (swper, gwely a brecwast).

Diwrnod 8 – Croesi’r sianel i Dover ac adref.

Gwesty

Gwesty’r Novotel Amboise****
Gwesty modern ar gyrion Amboise, gyda golygfeydd panoramig ar draws y dref. Mae’n cynnwys ystafelloedd cyfforddus gyda chyfleusterau gwneud te/coffi, bwyty, lolfa, bar a lifft. Ceir teras a gardd hefyd, yn edrych dros y pwll nofio awyr agored sydd yno.

Cynnwys

  • 2 Noson Swper, Gwely a Brecwast yn Arras
  • 5 Noson Swper, Gwely a Brecwast yn Amboise
  • Teithiau byr ar y llong o Dover i Calais ac yn ôl
  • Mynediad i Chateau du Clos Luce, Amboise
  • Mynediad i Chateau de Chenonceau
  • Mynediad i winllan lleol
  • Mynediad i Chateau Royal De Blois, Blois
  • Mynediad a taith gyda thywys o gwmpas Chateau/Jardins de Villandry
  • Mynediad i Fondation Claude Monet, Giverny