Opening Times

01407 731080

Login / Register

England

TAITH Y GWANWYN – O SIOE I SIOE A GWELD Y SÊR

25 April 2025

3 Days from just £299.00

Hilton Leicester Hotel

Beth am ymuno â ni ar y penwythnos cyffrous hwn lle cewch ymweld â nid un ond dwy sioe gwbl wahanol – a gweld dau o ddawnswyr iâ enwoca’r byd yn rhoi un o’u perfformiadau olaf!

Atodiad Sengl £40


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

25 Apr, 2025

Duration

3

Price

£299

Hotel

Hilton Leicester Hotel

Title

Taith y Gwanwyn


Manylion y Daith

Diwrnod 1 - Dydd Gwener:

 Teithio o Ogledd Cymru i faes rasio ceffylau Uttoxeter, a fydd wedi ei drawsnewid yn “Bentref Cwiltio a Phwytho” (North Midlands Patchwork, Quilt and Embroidery Show). Bydd digonedd o stondinau ac arddangosfeydd difyr yno, gyda rhywbeth at ddant pawb, o’r pwythwyr brwd i’r rhai na chododd nodwydd erioed! [Mynediad wedi’i gynnwys]. Ddiwedd y prynhawn, awn ymlaen i’n gwesty yn ninas Caerlŷr [2 noson - swper, gwely a brecwast]

Diwrnod 2 - Dydd Sadwrn:

Ar ôl brecwast hamddenol, bydd y bws yn ein cludo i ganol Caerlŷr lle cawn ychydig oriau i wneud fel y mynnom. Mae digon i ddenu ein sylw yno – canolfannau siopa, yr eglwys gadeiriol, neu beth am alw yng Nghanolfan Richard III – sy’n croniclo hanes y Brenin y canfuwyd ei gorff dan faes parcio yn y ddinas rai blynyddoedd yn ôl. Byddwn yn dychwelyd i’r gwesty am swper cynnar, er mwyn bod yn barod am un o uchafbwyntiau’r daith, sef sioe “Our Last Dance” gyda’r sêr dawnsio iâ Torvill a Dean yn y World Arena, Birmingham – un o’u perfformiadau olaf cyn ymddeol. Mae’r ddau wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd am ddegawdau, ac mae’n siŵr o fod yn sioe werth ei gweld! [Tocyn wedi’i gynnwys].

Diwrnod 3 - Dydd Sul:

Ar ôl brecwast, ffarwelio â’r gwesty a chychwyn ar ein taith yn ôl i Ogledd Cymru. Ar y ffordd, cawn dreulio ychydig oriau yn siop fawr Boundary Mill, Walsall – cyfle olaf i wario cyn troi am adre!

Gwesty

Gwesty’r Hilton Caerlŷr (Leicester) ****
Mwynhewch amgylchedd cyfforddus a chyfoes yn y gwesty 4 seren hwn. Ymlaciwch yng Nghlwb Iechyd Byw’n Iach y gwesty, sy’n cynnwys pwll nofio dan do. Mwynhewch fwyd gwych ym Mwyty’r Flavors neu eisteddwch yn y Court Bar & Terrace gyda byrbrydau traddodiadaol neu de prynhawn blasus.

Cynnwys

  • 2 Noson Swper, Gwely a Brecwast – Gwesty’r Hilton, Caerlŷr (4 seren)
  • Mynediad i’r Pentref Cwiltio a Phwytho, Uttoxeter
  • Tocyn i’r Sioe “Our Last Dance”, Torvill a Dean, World Arena, Birmingham