Diwrnod 1 - Dydd Gwener: Cychwyn tua’r de, gan gael saib am baned yn Aberystwyth. Ymlaen wedyn i dref Caerfyrddin, lle bydd y prynhawn yn rhydd (2 noson swper, gwely a brecwast yng Ngwesty’r Ivybush, Caerfyrddin).
Diwrnod 2 - Dydd Sadwrn: Ar ôl brecwast, teithio i Arberth i fwynhau seremoni’r Cyhoeddi. Bydd y bws yn cychwyn mewn da bryd i aelodau’r Orsedd gael mynd i ymwisgo. Mae Arberth yn dref ddeniadol llawn siopau bychain a bwytai amrywiol. Bydd amser i fwynhau atyniadau’r dref ar ôl y seremoni.
Diwrnod 3 - Dydd Sul: Troi tuag adref, a chawn saib hir amser cinio yn Aberystwyth – cyfle i grwydro’r siopau, neu gerdded y prom efallai!