Opening Times

01407 731080

Login / Register

Wales

GŴYL FWYD Y FENNI A CHAERDYDD

19 September 2025

3 Days from just £279.00

Park Inn Cardiff

Ymunwch â Ni ar Daith i Ŵyl Fwyd Y Fenni – Pori, Prynu, Blasu

Mewn partneriaeth â Gŵyl Fwyd Caernarfon, rydym yn eich gwahodd ar daith arbennig i Ŵyl Fwyd Y Fenni, 19 – 21 Medi 2025! Mae’r ŵyl, a sefydlwyd yn 1999, yn cael ei chynnal dros y trydydd penwythnos ym mis Medi. Wedi’i sefydlu ar sail nid-er-elw, mae’n dathlu diwylliant bwyd Cymru a thu hwnt.

Mae'r Ŵyl wedi ymrwymo i gynnwys demograffeg eang, gan drawsnewid y ffordd y mae pobl yn meddwl am fwyd; herio a hyrwyddo syniadau newydd, gwthio’r ffiniau, ac annog pobl i edrych yn wahanol o ble y daw eu bwyd.

Archebwch eich lle heddiw a chreu atgofion blasus fydd yn para oes.

NID YW MYNEDIAD I’R WŶL YN GYNWYSEDIG – BYDD ANGEN PRYNU TOCYN YMLAEN LLAW

Atodiad sengl: £109

 

ABERGAVENNY FOOD FESTIVAL & CARDIFF

Join Us on a Trip to Abergavenny Food Festival – Browse, Buy, Savour

In partnership with Caernarfon Food Festival, we invite you on a special trip to the Abergavenny Food Festival, 19 – 21 September 2025! The festival, founded in 1999, takes place over the third weekend of September. Set up on a not-for profit basis, it celebrates the food culture of Wales and beyond. 

The Festival is committed to drawing in a wide demographic, transforming the way people think about food; challenging and promoting new ideas, pushing the boundaries, and encouraging people to look differently at where their food comes from. 

Book your place today and create delicious memories that will last a lifetime.

ENTRANCE TO THE FESTIVAL IS NOT INCLUDED – TICKETS WILL NEED TO BE PURCHASED IN ADVANCE

Single Supplement: £109


Seat available
Seat taken

Tours in this Itinerary

Departing

19 Sep, 2025

Duration

3

Price

£279

Hotel

Park Inn Cardiff

Title

Abergavenny Food Festival & Cardiff


Manylion y Daith

Diwrnod 1: Cychwyn am Gaerdydd a teithio drwy’r bore i gyrraedd yn gynnar yn y prynhawn. Byddwn yn aros yng Ngwesty’r Park Inn by Radisson am 2-noson (gwely a brecwast). Mae gweddill y diwrnod yn rhydd i grwydro prifddinas fywiog Cymru.

Diwrnod 2: Ar ôl brecwast, teithiwn i’r Fenni lle cewch dreulio’r diwrnod a rhan o’r nos yn yr Ŵyl. Bydd y bws yn dychwelyd i’r gwesty yng Nghaerdydd am 8.00pm. Nid yw mynediad i’r Wŷl wedi’i gynnwys a bydd angen archebu tocyn ymlaen llaw.

Mae gan yr Ŵyl farchnadoedd helaeth gyda 190 o arddangoswyr, ond mae mwy ar gael hefyd. Os ydych chi'n dod naill ai ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul mae llawer o ddigwyddiadau am ddim fel rhan o'r tocyn mynediad, gan roi'r cyfle i gwrdd â rhai o oleuadau disgleiriaf y byd bwyd. Mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth arbennig i bawb, o deuluoedd i ffrindiau a rhai sy’n caru bwyd.

Diwrnod 3: Teithio’n ôl i’r Wŷl Fwyd yn Y Fenni. Mwynhewch ychydig o amser yn yr Wŷl, cyn cychwyn adre i’r gogledd am 3.00pm.

Gwesty

Gwesty Park Inn by Radisson, Canol Caerdydd***

Mae’r gwesty hwn e’i leoli ar draws y stryd o’r Motorpoint Arena yng nghanol Caerdydd.

Mae pob ystafell wely yn cynnwys Wi-Fi am ddim, setiau teledu sgrin fflat a chyfleusterau gwneud te a choffi.

Cynnwys

  • 2 Noson Gwely a Brecwast yng Ngwesty Park Inn by Radisson (3 seren, yng nghanol Caerdydd)
  • Bws moethus ar gyfer taith gyfforddus
  • Bws i dreulio diwrnod a rhan o’r nos yn yr ŵyl