Diwrnod 1 (Dydd Llun): Cychwyn yn gynnar am Gaergybi i ddal y llong i’r Ynys Werdd am 9.00am. Yna byddwn yn parhau â’n taith ar draws Iwerddon i Ballybofey a Gwesty Jackson’s, lle byddwn yn aros am 4 noson [Swper, gwely a brecwast].
Diwrnod 2 (Dydd Mawrth): Taith i ddinas Deri yng Ngogledd Iwerddon. Mae heddwch wedi gwneud y ddinas hon, gyda’i hanes cythryblus, yn un o’r rhai mwyaf diddorol i ymweld yn Ynysoedd Prydain.
Bydd amser rhydd yn Deri. Manteisiwch ar y cyfle i gerdded dros y Bont Heddwch neu i ymweld a rhai o amgueddfeydd hynod ddiddorol y ddinas.
Dychwelwn i'r gwesty yn ystod y prynhawn cyn ein pryd nos.
Diwrnod 3 (Dydd Mercher): Bore yn Donegal. Yng nghanol y dref mae'r Diamwnt, ardal agored i gerddwyr wedi'i hamgylchynu gan siopau, tafarndai clyd, bwytai bendigedig a siopau coffi. Mae digon i'ch cadw'n brysur yn y dref fach hon gan gynnwys Castell Donegal ac olion Abaty Ffransisgaidd sy’n eistedd ym mae hyfryd Donegal.
Dychwelwn i’r gwesty yn ystod y prynhawn. Bydd digon o amser i baratoi ar gyfer y dathliadau heno.
Heno, bydd uchafbwynt y daith, Parti’r Cymry i ddathlu’r Flwyddyn Newydd. Mwynhewch eich swper nos i’w ddilyn gan adloniant Nos Galan gan Bwncath gyda gwydriad o Prosecco am hanner nos.
Diwrnod 4 (Dydd Iau): Diwrnod rhydd. Ymlaciwch yn y gwesty a gwneud defnydd o'r cyfleusterau hamdden neu ewch am dro hamddenol o gwmpas Ballybofey.
Diwrnod 5 (Dydd Gwener): Teithio’n ôl i’r porthladd yn Nulyn i hwylio adre am 2.50pm.