Mae Gwesty'r Marine, sydd wedi'i lleoli ar bromenâd hyfryd Aberystwyth, wedi cael ei rhedeg gan yr un teulu ers dros 30 mlynedd, a bellach yn croesawu'r drydedd genhedlaeth i redeg y gwesty! Mae’r gwesty wedi ei leoli yn ddigon agos i ganol y dref ond y tu hwnt i firi’r dref.
Mae’r Sba arfordirol yn cynnig yr encilfa berffaith i chi ymlacio ac ymbleseru ynddi wrth fanteisio ar driniaethau esmwythaol. Bydd llonyddwch y cyfleusterau tanddaearol yn eich galluogi i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth brysurdeb eich bywyd bob dydd.
Gall pob un o westeion y Gwesty ddefnyddio’r cyfleusterau Sba yn rhad ac am ddim. Pan fyddwch yn cyrraedd, ewch i'r dderbynfa i archebu amser ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r cyfleusterau.